Llongyfarchiadau enfawr i William Davies, Penywern, Llangain a ddewiswyd fel Capten i tîm Pêl-droed Cymru Dan 19 oed ym Mhencampwriaeth flynyddol y Cenhedloedd Cartref yn Belfast yn ddiweddar. Da iawn Cymru am ddod yn Ail yn y gornest.
Mae William yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Llangain ac ar hyn o bryd, yn astudio Lefel A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro myrddin. Y mae yn fab i Ieuan a Gwyneth Davies ac yn wyr i Ellis ac Enor Davies, Pantyrynn. Dymuniadau gorau a phob lwc am y dyfodol.
This page is also available in: English