Mae Clwb Hyfforddi Rygbi Cyffwrdd Llangain yn parhau i fod yn weithgaredd hirsefydlog ymysg y gymuned y pentref wedi ei sefydlu yn 1989 gan sylfaenydd Peter Jenkins o Blas Newydd, sy’n parhau i fod yn Gyfarwyddwr Rygbi hyd heddiw. Bu Dai Jenkins ei fab yn rheolwr ers sawl blwyddyn.
Wedi mynd trwy gyfnod anodd a thywydd garw dros y degawdau, mae’r clwb yn fwy poblogaidd heddiw nag erioed. Mae’r garfan rheolaidd o tua 45 gydag oedrannau’n amrywio o 14 oed i 60+ yn ymarfer ar nos Sul ar arwyneb 4G ym Mharc Waundew yng Nghaerfyrddin am 7yh. Mae croeso i bawb i ymuno gyda’r gost yn £20 am 10 wythnos neu £3 y sesiwn ac £1 yn unig i dan 18 mlwydd oed.
Yn Ebrill 2018, ennillodd y tîm Bencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Cymru yn stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd. Ynghyd â’r sawl achlysur cymdeithasol a’r cinio Nadolig blynyddol ar ddiwedd y tymor, mae’r tîm yn trefnu taith rygbi ddwywaith y flwyddyn i un o’r gwledydd sy’n cystadlu yn ystod Rygbi’r Chwe Gwlad.
Dewch draw i gymryd rhan!
Cyswllt – Dai Jenkins
Ebost – daijenks11@hotmail.co.uk
Tel. – Peter Jenkins (01267) 241 679
Chwith i’r dde, rhes gefn : Peter Jenkins, Chris Saunders, Osian Hughes, Tom Van Praet,
John Bevan, Martin Jones, Chris Jones, Dai Jenkins, Steve Smith;
rhes flaen : Phil Williams, Geraint Davies, Viv Jenkins.
This page is also available in: English