PANEL GWYBODAETH LLANGAIN (Geiriau yn unig. Gwelir llun y panel o dan MAPIAU) DS. Mae * yn dynodi Dim Mynediad i’r Cyhoedd Poblogaeth – 573 (Cyfrifiad 2011)
GWOBRAU PENTREF TACLUSAF 1985 1988 1989 CYMRU YN EI BLODAU 1992 1993 2003 2004 – Morfa Bach PENTRE’R FLWYDDYN 1998 1999 – Amgylchedd, 2001 – Pob Categori, 2002 – Amgylchedd a Ieuenctid, 2003 – Busnes a TG.
LLANGAIN Saif Llangain ar lannau’r Afon Tywi, ac mae ffiniau’r plwyf yn ymestyn bron o Dre-Ioan i Lansteffan mewn un cyfeiriad ac o Langynog hyd at yr afon i gyfeiriad arall. Mae’r plwyf hwn, sy’n cynnwys bron 3,000 o erwau yn gyfuniad o gefn gwlad godidog a bryniau gwyrddlas yn cyrraedd 350tr / 105m (Pwynt Trig ▲) a choetiroedd ysblennydd.
ARFBAIS Y CYNGOR Rhoddwyd yr arfbais hwn gan y Cyngh. Haydn Williams er cof am ei rieni sef Evan John Williams a Nellie Williams o Glascoed (gynt o Penycoed a Coedmor).
Mae’r symbol, sef ysgub o ŷd, yn dynodi asgwrn cefn y gymuned amaethyddol hon. O gwmpas y symbol hwn gwelir tair nodwedd leol (Castell Moel, Capel Smyrna ac Eglwys y Plwyf) ac mae’r dderwen i’w chanfod mewn nifer o enwau yn y pentref.
CYN-HANES Ceir rhai cromlechi yn yr ardal, yr enwocaf yw Meini Llwydion a Choetenau Myrddin. Claddfeydd teuluol oeddynt sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig. (c.3000CC).
CASTELL MOEL * Nodwedd leol yw hwn uwchben y tro miniog ar y B4312. Safai’r adfeilion o’r tŷ trawiadol yr Oesoedd Canol hwyr o hyd. Ni fu erioed yn gastell, ond yn hytrach cartref a adeiladwyd ar gyfer y teulu Reed ar ddechrau’r 15ed ganrif. Yn wir, roedd yn adfeilion erbyn oes Elisabeth. Mae’n bosibl bod yma amddiffynfa bridd ar ryw adeg, a chred rhai mai ger yr Hen Gastell y safai hon. Castell mwnt a beili fyddai hwn yn ddiau. Mewn amserau cynt, arferai llongau angori o dan y castell i ddadlwytho eu nwyddau i longau ysgafnach a’u cludo i Gaerfyrddin.
YSGOL Adeiladwyd Ysgol Gynradd Llangain yn 1875 ar ysgol newydd yn 1977. Erbyn hyn mae ‘Yr Hen Ysgol’ yn breswylfa.
EGLWYS Y PLWYF Adeiladwyd yr eglwys bresennol, sef Eglwys Sant Cain yn 1871. Mae murluniau hyfryd o deils o amgylch yr allor er cof am y teulu Gwyn, Pilroath a Phlas Cwrthir. Ceir yno hefyd gwpan cymun o oes Elisabeth dyddiedig 1576.
CAPEL SMYRNA Mae Capel yr Annibynwyr yn nodwedd amlwg. Adeiladwyd yn wreiddiol yn 1835. Ailadeiladwyd yn 1865. Capel presennol 1915. Pwrpas y stabl fach oedd cysgodi ceffylau yn ystod gwasanaethau’r capel. Defnyddiwyd y llofft fel festri.
NEUADD GOFFA Adeiladwyd 1963. Agorwyd 1964. Er cof am y rhai a laddwyd yn y ddau Rhyfel Byd. ‘Dros ryddid collasant eu gwaed’.
COEDMOR* Adeiladwyd y breswylfa hon yn 1968 ar gyfer Mr a Mrs E J Williams, ffermwyr wedi ymddeol o Pen-y-coed. Yn wreiddiol, roedd y tir yn eiddo i’r teulu ac mae’r enw Coedlan Coedmor yn cydnabod y cysylltiad lleol parhaol.
BWTHYN Y FELIN Hen felin wlân oedd hon a gyflogai bedwar o weithwyr llawn amser yn ei dydd. Caeodd Melin neu Ffatri Llangain yn y 1940au.
PLAS CWRTHIR* Adeiladwyd y plasty tô dwbl hwn tua chanol y 19eg ganrif. Y preswylydd cyntaf oedd William Edward Bevan Gwyn o Pilroath.
LLWYNDU* Adeiladwyd y plasty hwn yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif. Bu’r Capten Henry Harding yn byw yno rhwng 1821 a 1823 ac wedi hynny bu’n gartref i Frederick Philipps,Y.H. Yn 1906, aeth yn eiddo i Charles Bankes Davies. Mae ganddo borthdy uchaf as isaf. Enw gwreiddiol y porthdy uchaf sef ‘The Beeches’ oedd ‘Chweched’, cyfeiriad at y chwe heol.
PILROATH* Saif Pilroath ym mhen deheuol y plwyf uwchben y man lle llifa Nant Rhoth i Afon Tywi. Yn 1902 prynwyd yr eiddo gan T J Harries, MBE, JP, a chododd y plasty presennol. Tan 1994, roedd yr eiddo hwn a fu’n gartref i dair cenhedlaeth o’r teulu Harries, yn eiddo i’r Cyngh.Sir, Arthur Harries, CBE, JP, MRCVS.
FERNHILL* Maenordy c.1723. Mae’n fwyaf adnabyddus fel y man lle’r arferai’r bardd enwog Dylan Thomas dreulio ei wyliau haf pan yn blentyn. Cafodd y tŷ ei anfarwoli yn un o’i gerddi enwocaf a elwir ‘Fernhill’.
‘Now as I was young and easy under the apple boughs
About the lilting house and happy as the grass was green.
And as I was green and carefree, famous among the barns
About the happy yard and singing as the farm was home’.
Trigai y crogwr cynorthwywr y sir sef Robert Evans yma yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.
BRYNDERI* Adeiladwyd y breswylfa gŵr bonheddig hwn tua 1928 fel cartref ymddeoliad ar gyfer y Parch. Evan Jones BD, Ficer Llangain 1900 – 1934.
COED CADW Dyma elusen fwyaf Prydain sy’n ymwneud yn unig â chadwraeth coed trwy brynu a rheoli. Prynwyd Coedwigoedd Castell Moel yn 1993 ac mae’r safle bellach ar agor i’r cyhoedd.
BYWYD GWYLLT Mae’r cyfuniad o goetir, meysydd, gwrychoedd, nentydd, glan yr afon a’r chwarel yn cynnig amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd ac yn creu noddfa bwysig iawn i bob math o fywyd gwyllt. Ymhlith yr adar a welir yma’n aml ceir y curyll, y cudyll glas, y bwncath a’r gnocell fraith leiaf. Tyf hen flodau’r maes yn ymyl coed derw, bedw, helyg a gwern.
PANTYDDERWEN Bwthyn bychan oedd hwn yn wreiddiol ac ar un adeg yma oedd Swyddfa’r Post a’r siop losin leol. Addaswyd y lle yn dŷ tafarn yn 1979.
PANTYRATHRO Adeiladwyd gan James Richards ar ddechau’r 19eg ganrif fel canlyniad o werthu cynnyrch llaeth i Lundain ar ddyfodiad y rheilffordd. Addaswyd y plas yn westy lleol yn y 1970au.
Cynhyrchwyd gan Signspeed, Sir Benfro Dyluniwyd a darluniwyd gan Sarah Lees, Llandybie Testun hanesyddol o LYFR LLANGAIN gan Haydn Williams (Halsgrove, 2007) CYNGOR CYMUNED LLANGAIN 2010
This page is also available in: English