PROSIECT RHYNGWLADOL URDD PATAGONIA
Dewiswyd ELIOTT DAVIES o Ger-y-Capel, Llangain, disgybl Blwyddyn 11 a TGAU yn Ysgol Bro Myrddin fel yr unig Lysgennad Ieuenctid i gynrychioli Sir Gaerfyrddin gyfan yn y prosiect gwirfoddoli ym Mhatagonia yn ddiweddarach eleni.
Yn ystod ei amser ym Mhatagonia, bydd Eliott yn ymwneud â phob math o weithgareddau gwirfoddol gan gynnwys arwain sesiynau gyda phlant a phobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg, ymweld â Phatagoniaid o dras Gymreig, gweithio mewn ysgolion, helpu gyda phrosiectau cymunedol a chynrychioli Cymru yn Eisteddfod Patagonia.
Bydd Mr Davies yn cymryd rhan ym mhob cam o’r prosiect, o gynllunio a threfnu’r ymweliad, gwirfoddoli ar wahanol brosiectau, i godi arian a chyfathrebu parhaus â chymheiriaid ym Mhatagonia. Gan ei fod yn rhugl mewn Sbaeneg a Chymraeg, bydd ei gyfraniad i’r ymweliad, felly, yn arbennig o ddefnyddiol yn y cymunedau o ran cyfathrebu a pherthnasoedd.
Fodd bynnag, daw cost i’r prosiect ac mae’n rhaid i Eliott godi tua £ 2,500 er mwyn i’r cyfnewid pwysig ddigwydd ac elwa’n llawn o’r profiad gwych. Bydd yr arian a godir hefyd yn helpu’r prosiect Menter Patagonia sy’n cefnogi ac yn datblygu gwaith cymunedol yn y rhanbarth.
Gall unrhyw un sy’n barod i gyfrannu tuag at nawdd Eliott i’w alluogi i ymgymryd â’r prosiect pwysig hwn gysylltu ag ef ar ei gyfeiriad e-bost, sef, jead2003@icloud.com neu yn wir, yn ei gartref yn Ger-y-Capel.